Cofnodion y cyfarfod diwethaf
19 Tachwedd 2014
Tŷ Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
YN BRESENNOL: |
||
|
||
Bethan Jenkins AC (Cadeirydd) |
BJ |
AC dros Orllewin De Cymru (Plaid Cymru) |
Samia Saeed-Edmonds |
SS |
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf |
Leslie Rudd |
LR |
Iechyd Cyhoeddus Cymru |
Michelle Bushell (Ysgrifennydd) |
MB |
Beat Cymru |
Ewan Hilton |
EH |
Gofal |
Katie Dalton |
KD |
Gofal |
Hazel Yates |
HY |
Gofal |
Manon Lewis |
ML |
Beat |
Bridget Taylor |
BT |
Beat |
Julie Davis |
JD |
Beat |
Menna Jones |
MJ |
Arweinydd Clinigol Haen 3, Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro / Cwm Taf |
Carolyn Sansom |
CS |
Arweinydd Clinigol Haen 2 Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf |
Robin Glaze |
RG |
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed Gogledd Cymru |
Emma Hagerty |
EH |
Arweinydd Haen 2 Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan |
Gill Davies |
GD |
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed Caerdydd a’r Fro |
Clare O’Reilly |
CR |
Haen 3 BILl Caerdydd a’r Fro |
Jane Burgoyne |
JB |
Haen 1 BILl Caerdydd a’r Fro |
Jacinta Tan |
JT |
Athro Cyswllt Clinigol, Coleg Meddygaeth Abertawe |
Don Ribeiro |
DR |
Gofalwr |
Janet Ribeiro |
JR |
Gofalwr |
CPGED/NAW4/07 - Croeso ac ymddiheuriadau |
Camau gweithredu |
Croesawodd Bethan Jenkins AC y rhai a oedd yn bresennol i gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta.
CAFWYD:
Ymddiheuriadau gan aelodau absennol:
|
|
CPGED/NAW4/08 - Cofnodion y cyfarfod diwethaf |
Camau gweithredu |
CYTUNWYD: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod diwethaf.
TRAFODWYD: Materion yn codi
· CPGED/NAW4/02 - Y Fframwaith Anhwylderau Bwyta CAM I’W GYMRYD: BJ i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru Y wybodaeth ddiweddaraf: Cafodd BJ lythyr gan Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd yn nodi eu bod yn gobeithio cynnal adolygiad erbyn y Gwanwyn 2015. Mae swyddogion yn ystyried yr opsiynau o ran yr adolygiad a thystiolaeth gan gyfleusterau anhwylderau bwyta i gleifion mewnol yng Nghymru, i lywio’r adolygiad.
· CPGED/NAW4/04 - Beat Cymru Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Rhoddodd EH y wybodaeth ddiweddaraf am y bartneriaeth rhwng Beat a Gofal. Rhoddodd HY drosolwg o gais am arian Adran 64 Beat i godi ymwybyddiaeth drwy raglen hyrwyddo a model cyflwyno hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol. Disgwylir y penderfyniad ariannu erbyn diwedd 2014.
· CPGED/ NAW4/05 - Materion i’w codi CAM I’W GYMRYD: Bydd y grŵp yn gwahodd cynrychiolydd o Gymdeithas Feddygol Prydain i’r cyfarfod nesaf, i drafod sut mae meddygon teulu/staff gofal sylfaenol yn adnabod ac yn trin anhwylderau bwyta? Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Cytunodd y grŵp y byddai’n ddefnyddiol gwahodd meddyg teulu i gyfarfod yn y dyfodol, a byddai’n ystyried yr opsiynau.
· CPGED/NAW4/06 - Unrhyw fater arall CAM I’W GYMRYD: Bydd Bethan yn cwrdd â Tina Gambling o Brifysgol Caerdydd yn fuan i drafod ei chanfyddiadau ynghylch hunan-barch mewn addysg. Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Mae Tina Gambling yn cynnal astudiaeth bwrdd gwaith am ddelwedd y corff, ond ni fu’n bosibl cysylltu â hi. Bydd BJ parhau i geisio trefnu cyfarfod gyda hi.
|
BJ i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlenni ar gyfer yr adolygiad o’r Fframwaith Anhwylderau Bwyta
BJ i barhau i geisio trefnu cyfarfod gyda Tina Gambling |
CPGED / NAW4 / 09 - Gwasanaethau Anhwylderau Bwyta yng Nghymru |
Camau gweithredu |
Croesawodd BJ Samia Saeed-Edmonds (Cyfarwyddwr Cynorthwyol - Partneriaethau ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf) a Dr Leslie Rudd (Pennaeth y Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymru) i’r cyfarfod a gwahoddodd hwy i wneud eu cyflwyniadau ynghylch gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru. Roedd eu cyflwyniad yn cynnwys y pwyntiau canlynol:
Llwyddiannau diweddar · Sefydlu Gwasanaethau Haen 3 ar draws Cymru · Perthnasoedd gwell a phontio gwell ar draws yr Haenau · Gweithredu o ran Targedau Anhwylderau Bwyta Deallus · Cynnwys Anhwylderau Bwyta yn y Strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl · Gofal yn cynnal menter B-fwyta Cymru
Y sefyllfa bresennol Cyfleoedd a Risgiau · Mae’r Rhwydwaith Clinigol Anhwylderau Bwyta Haen 3 wedi’i hen sefydlu, ond mae’n gyfyngedig o ran ei gylch gwaith. · Rhwydwaith Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed / Anhwylderau Bwyta newydd Cymru Gyfan · Sefydlu rhwydweithiau defnyddwyr gwasanaeth newydd · Mae pwysau ar wasanaethau ar draws yr holl Haenau · Gallai Anhwylderau Bwyta fod â ffocws cryfach yn Haen 4MH - sut allwn ni ddylanwadu yn hyn o beth? · Adolygiad o’r Fframwaith Anhwylderau Bwyta
Blaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg · Gofal Sylfaenol · Gwerthusiad o Opsiynau Haen 4 i gael ei gwblhau · Datblygu rhagor o rwydweithiau defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr · Adnewyddu ffocws y Rhwydwaith Anhwylderau Bwyta Haen 3 Cymru Gyfan · Cynhadledd Anhwylderau Bwyta?
|
|
CPGED/NAW4 10 - Trafodaeth |
Camau gweithredu |
Trafododd yr Aelodau o’r grŵp trawsbleidiol y materion a godwyd yn y cyflwyniad a buont yn ymateb i’r cwestiynau canlynol ar ddiwedd y cyflwyniad:
Beth sy’n gweithio’n dda; · Mae gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed rôl gwasanaeth allgymorth wedi’i ariannu yn Ne Cymru, ac mae elfen o hyfforddiant sydd ynghlwm â’r gwasanaeth hwn, er mwyn codi safonau pobl sy’n gweithio yng ngwasanaethau anhwylderau bwyta’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed. · Casglu data ar haen 3, a mesur canlyniadau cadarnhaol
Sut wasanaeth yw/ fyddai gwasanaeth da? · Gwasanaeth atgyfeirio gan feddygon teulu ar gyfer achosion brys, at y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed, o fewn wythnos. · Mae ar feddygon teulu angen hyfforddiant pellach o ran Anhwylderau Bwyta, er mwyn gallu atgyfeirio cleifion yn hyderus i’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed a Gwasanaethau Oedolion. Mae rhai meddygon teulu yn amwys pan fydd achos o Anhwylder Bwyta yn dod i’r amlwg, ac mae angen gwella eu sgiliau i adnabod y cyflwr. · Cael strwythur fframwaith sy’n gyson drwy’r holl wasanaethau a haenau. · Sefydlu therapydd teulu i weithio mewn timau anhwylderau bwyta · Mesur canlyniadau ar y cyd â defnyddwyr gwasanaethau
Beth fyddai eich blaenoriaethau? · Adolygu’r Fframwaith Anhwylderau Bwyta ar gyfer Cymru · Codi proffil anhwylderau bwyta mewn polisïau iechyd meddwl cyffredinol · Gwella agweddau a lleihau stigma
Ymyrraeth gynnar: gofal sylfaenol ac addysg · Gwella ymwybyddiaeth gweithwyr iechyd proffesiynol o anhwylderau bwyta mewn gofal sylfaenol a gwasanaethau cymunedol cyffredinol, a’u gwybodaeth yn hyn o beth. · Darparu hyfforddiant arbenigol ynghylch anhwylderau bwyta i feddygon teulu a gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol perthnasol eraill. · Gwella’r wybodaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl sydd â phrofiad o anhwylderau bwyta a’u teuluoedd / gofalwyr. · Sicrhau bod atgyfeiriadau priodol ac amserol gwell ar gael. · Diweddaru’r Fframwaith Anhwylderau Bwyta ar gyfer Cymru i gynnwys y dyletswyddau a’r gwasanaethau cyfreithiol a ddarperir o dan Ran 1 o’r Mesur Iechyd Meddwl (Cymru). · Gwella eglurder ynghylch llwybrau atgyfeirio o ofal sylfaenol. · Gwella’r gallu sydd gan feddygon teulu a Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Lleol Sylfaenol i brysuro achosion pobl sydd ag anhwylderau bwyta, a darparu ymyriadau amserol. · Cefnogi Gwirfoddolwyr, fel llysgenhadon Beat, i weithio gyda phartneriaid iechyd i wella ymatebion cyntaf i gleifion sydd ag anhwylderau bwyta. · Cefnogi mwy o ymchwil, i asesu’r anawsterau a’r pwysau sy’n wynebu pobl ym maes gofal sylfaenol i ddarparu gwybodaeth, triniaeth a chymorth i bobl sydd â phrofiad o anhwylderau bwyta. · Lleihau amseroedd aros ar gyfer triniaeth a chymorth. · Lleihau’r amrywiaeth o ran triniaeth, cefnogaeth ac amseroedd aros ar draws Cymru. · Gwella’r sylfaen dystiolaeth o ran effeithiolrwydd gwahanol fathau o driniaeth a chymorth. · Darparu’r ymyriadau mwyaf priodol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth a gwella’r canlyniadau i gleifion. · Gwella’r sylfaen dystiolaeth am effeithiolrwydd ymyriadau cynnar. · Gwella gwybodaeth, ymwybyddiaeth a chefnogaeth mewn ysgolion - ar gyfer disgyblion a staff. · Gwella gwybodaeth am lwybrau atgyfeirio ar gyfer disgyblion ag anhwylderau bwyta. · Cefnogaeth i lysgenhadon Beat i weithio gyda’r ysgol i roi’r sgiliau cywir i athrawon gynorthwyo disgyblion ag anhwylderau bwyta yn well. · Gwella cefnogaeth i bobl sy’n gadael cartref i fynd i golegau / prifysgolion, lle y gallant fod yn symud oddi wrth weithwyr iechyd proffesiynol, teulu a rhwydweithiau cymorth. · Gwella gwybodaeth, ymwybyddiaeth a chefnogaeth mewn colegau a phrifysgolion - ar gyfer myfyrwyr a staff.
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed · Gwella’r rhyng-berthynas rhwng y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed a Fframwaith Anhwylderau Bwyta Cymru. · Darparu hyfforddiant arbenigol ar anhwylderau bwyta ar gyfer y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed er mwyn gwella sgiliau staff. · Lleihau amseroedd atgyfeirio ledled y gwasanaethau Anhwylderau Bwyta/ Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed. · Gwella argaeledd therapyddion teulu yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed . · Gwella’r broses o bontio rhwng y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed a gwasanaethau oedolion. · Cefnogi’r cynnig i uno rhwydwaith Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed / Anhwylderau Bwyta Cymru Gyfan â Rhwydwaith Clinigol Haen 3 Cymru Gyfan.
Sgiliau ac agweddau ar wardiau cyffredinol, wardiau iechyd meddwl a wardiau pediatreg. · Gwella dealltwriaeth o anhwylderau bwyta a gwybodaeth amdanynt ar wardiau cyffredinol, wardiau iechyd meddwl a wardiau pediatreg. · Leihau’r stigma a gwella agweddau tuag at bobl ag anhwylderau bwyta sy’n cael eu rhoi ar wardiau cyffredinol, wardiau iechyd meddwl a wardiau pediatreg. · Gwella’r hyfforddiant ar anhwylderau bwyta ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol ar wardiau cyffredinol, wardiau iechyd meddwl a wardiau pediatreg.
Cytunodd y grŵp y byddai’n ddefnyddiol i greu dogfen sy’n amlinellu’r materion a’r blaenoriaethau a drafodwyd yn y cyfarfod. Gallai hyn wedyn fod yn ‘faniffesto’ ar gyfer y grŵp trawsbleidiol, y gellid ei fwydo i’r adolygiad o Fframwaith Anhwylderau Bwyta Cymru.
|
BJ i ysgrifennu at David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd i dynnu sylw at anhwylderau bwyta yn yr adolygiad o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru).
KD/MB i lunio dogfen ddrafft yn amlinellu’r prif faterion / blaenoriaethau, a’i dosbarthu i aelodau’r Grŵp Trawsbleidiol i gael mewnbwn ganddynt. |
CPGED/NAW4/ 11 - Cylch gorchwyl |
Camau gweithredu |
Cyflwynwyd Cylch Gorchwyl drafft ar gyfer y Grŵp Trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta i’r grŵp. Oherwydd bod amser yn brin, caiff y cylch gorchwyl ei ddosbarthu i’r aelodau a’i gytuno’n ffurfiol yn y cyfarfod nesaf.
|
KD/MB i ddosbarthu’r cylch gorchwyl i aelodau’r Grŵp Trawsbleidiol |
CPGED/NAW4/12 - Cyfarfodydd yn y dyfodol |
Camau gweithredu |
Cytunodd y grŵp y byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar ôl y Nadolig ond cyn toriad y Pasg.
|
MB a BJ i gytuno ar ddyddiad a’i ddosbarthu |
Diolchodd BJ i bawb am eu presenoldeb ac i SSE a LR am eu cyflwyniad llawn gwybodaeth, a diddorol iawn.
|
|